DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Sport and Cultural Activities
Astudio yn CCNPT

Chwaraeon a Gweithgareddau Diwylliannol

 

Tra eich bod yn astudio yn CCNPT, efallai y byddwch yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig â’ch prif raglen astudio. Yn benodol, mae dysgwyr yn mwynhau amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau, sy’n amrywio o chwaraeon i weithgareddau diwylliannol, gan gynnwys cerddoriaeth, drama, celf a Gwobr Dug Caeredin, y mae llawer ohonynt yn cwrdd ar brynhawn Mercher.

 

Os na chynigir y gamp neu’r gweithgaredd rydych chi am ei ddilyn ar hyn o bryd, beth am ei ddechrau eich hun? Rydym yn annog myfyrwyr i drefnu gweithgareddau eu hunain. Gallwch ymuno ag un neu ragor o’r clybiau a chymdeithasau yn y Ffair Weithgareddau a gynhelir yn ystod yr wythnos gyntaf neu’r ail wythnos yn y Coleg – bydd posteri ar y campws yn rhoi’r holl fanylion i chi.

 

Academïau Chwaraeon

Ar gyfer dysgwyr sydd o ddifrif ynglŷn â’u chwaraeon, rydym yn cynnig academïau chwaraeon yn y campau canlynol:

  • Rygbi (Dynion / Merched)
  • Pêl-rwyd
  • Criced
  • Pêl-droed (Dynion / Merched)
  • Hoci merched
  • Golff.

Diben yr academïau yw galluogi mabolgampwyr i gyfuno eu haddysg â’u datblygiad chwaraeon. Mae’r buddion yn cynnwys:

  • Rhaglen hyfforddi strwythuredig sy’n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profiadol
  • Perfformiad personol yn cael ei fonitro yn rheolaidd gan ein tîm yn y Labordy Gwyddor Chwaraeon
  • Mae sesiynau hyfforddi a darlithoedd yn cael eu cynllunio i osgoi gwrthdrawiadau diangen
  • Cyfle i gystadlu yn nhimau chwaraeon llwyddiannus CCNPT
  • Bod yn rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich camp ddewisedig
  • Os ydych yn cystadlu yn rheolaidd mewn un o’r campau a restrir uchod dros dimau clwb, sir neu genedlaethol, cysylltwch â’r Uned Dderbyniadau i gael Ffurflen Gais ar gyfer Academi Chwaraeon.
Sport and Cultural ActivitiesSport and Cultural Activities