FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Astudio yn CCNPT |
Mae Swyddfa Fenter y Coleg yn cynorthwyo staff a dysgwyr ar draws pob un o feysydd y Coleg i gynllunio a chynnal gweithgareddau menter. Gall hyn gynnwys digwyddiadau annibynnol, fel cystadlaethau menter, ffeiriau masnach a gweithgareddau efelychu busnes, yn ogystal â gweithio gydag unigolion ac adrannau i gynnwys menter ymhellach yn yr hyn y maent yn ei wneud eisoes.
Rydym yn awyddus i ddatblygu sgiliau menter ymhlith ein myfyrwyr fel eu bod wedi’u cyfarparu i fynd i mewn i’r byd gwaith, pa un a ydynt yn gweithio iddyn nhw eu hunain neu i rywun arall. Mae’r sgiliau y mae entrepreneuriaid llwyddiannus yn meddu arnynt hefyd yn sgiliau pwysig ar gyfer gweithwyr – y gallu i gynnig syniadau a meddwl yn greadigol am sefyllfaoedd; bod â’r hyder i roi cynnig ar bethau; yr egni a’r penderfyniad i ganlyn pethau i’w terfyn; ymagwedd ‘gallu gwneud’ gadarnhaol; sgiliau cyfathrebu uwch a’r gallu i weithio’n dda gydag eraill. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau y gall dysgwyr eu datblygu drwy fod yn fwy mentrus a chymryd rhan mewn gweithgareddau menter.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn sefydlu ac yn rhedeg eu cwmnïau menter eu hunain dan faner Menter yr Ifanc. (Mae Menter yr Ifanc yn elusen addysg genedlaethol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am fenter drwy ei gwneud drostynt eu hunain). Ymhlith rhai o’r mentrau a sefydlwyd eleni y mae cwmni glanhau ceir, siop fwyd a chylchgrawn i ddysgwyr, i enwi ond ychydig.
Gall ymwneud â gweithgarwch menter hefyd ddarparu’r rhyngweithiad cymdeithasol sy’n cyfoethogi addysg llawer o bobl ifanc, gan ganiatáu iddynt wneud cyfraniad gwerthfawr a theimlo eu bod yn perthyn i rywbeth.
Mae gennym hefyd gysylltiadau agos â’r rhwydwaith cymorth busnes lleol a gallwn helpu myfyrwyr sydd â syniad am fusnes neu a fyddai’n hoffi dechrau eu busnes eu hunain.
Am wybodaeth bellach ynglŷn â Menter ac Entrepreneuriaeth yn CCNPT, cysylltwch â Miranda Thomas neu Karen Hopkins ar 01639 648666.