FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
Mae’r Ysgol Fathemateg a Gwyddoniaeth yn ymwneud â chyflenwi ystod eang o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau academaidd traddodiadol, yn ogystal â rhai cyrsiau galwedigaethol newydd, cyffrous. Ar hyn o bryd, ar gampws Castell-nedd, mae’r pynciau canlynol ar gael ar Safon Uwch Gyfrannol / Uwch: Bioleg, Cemeg, Astudiaethau Amgylcheddol, Daeareg, Bioleg Ddynol, Mathemateg, Mathemateg Bellach, Ffiseg a Seicoleg. Mae dewis ychydig yn llai o bynciau ar gampws Afan; ar hyn o bryd, cynigir Bioleg, Cemeg, Mathemateg, Ffiseg a Seicoleg. Mae cyrsiau TGAU mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (Dyfarniad Sengl) ar gael ar y ddau gampws. Gall myfyrwyr Safon Uwch hefyd gyfuno cymhwyster Bagloriaeth Cymru gyda’u hastudiaethau.
Yn ddiweddar, cynigiwyd dau gymhwyster newydd i fyfyrwyr sydd eisiau astudio gwyddoniaeth mewn cyd-destun galwedigaethol ar gampws Castell-nedd. Mae’r rhain yn cynnwys Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymwysedig (Gwyddoniaeth Fforensig) a Thystysgrif Genedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymwysedig (Gwyddoniaeth Feddygol). Mae’r rhain yn gyrsiau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, lle mae’r myfyrwyr yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a galwadau realistig yn y gweithle. Mae Diploma Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth Fforensig yn cyfateb i dair Safon Uwch ar raddau A-E, tra bod Tystysgrif Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Feddygol yn cyfateb i ddwy Safon Uwch ar raddau A-E. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy’n dymuno cwblhau’r Dystysgrif Genedlaethol gymryd pwnc Safon UG pellach ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn (argymhellir Safon UG Cemeg). Mae ‘Ystafell Man Trosedd’ hefyd wedi’i sefydlu o fewn yr ysgol i alluogi’r myfyrwyr i gasglu tystiolaeth fforensig o fan trosedd efelychiadol a dadansoddi’r canlyniadau yn y labordy.
Yn ogystal â bod yn dra chymwys a phrofiadol, mae’r staff darlithio yn agos-atoch, cyfeillgar a chefnogol. Maent yn gwneud pob ymdrech i ganiatáu i’r myfyrwyr gyrraedd eu llawn botensial. O ganlyniad, mae canlyniadau arholiadau Safon Uwch yn dangos lefelau uchel o gyrhaeddiad yn gyson, yn uwch na rhai cymaryddion Cenedlaethol yn aml.
Defnyddir ystod eang o strategaethau addysgu a dysgu, gan gynnwys defnydd cynyddol o fyrddau gwyn rhyngweithiol a’r Rhith-amgylchedd Dysgu / Ymennydd Digidol / MOODLE. Mae Sgiliau Allweddol wedi’u hintegreiddio yn llawn i gynlluniau gwaith. Darperir cyfleusterau ar gyfer astudiaeth breifat, gan gynnwys TGCh, o fewn cyfres o ystafelloedd yr Ysgol.
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn yr Ysgol yn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch; mae’r rhain yn amrywiol o ran eu natur ac yn adlewyrchu dyheadau gyrfa unigol.