FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (CGPh) yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, y Cyfryngau a’r Celfyddydau Perfformio, ac mae wedi’i lleoli ar Gampws Castell-nedd yn bennaf, sy’n cynnwys cyfleusterau arbenigol pwrpasol.
Rydym yn ganolfan ddysgu greadigol a gall myfyrwyr benderfynu dilyn y llwybr Safon Uwch a phrofi ystod o bynciau neu arbenigo mewn cwrs galwedigaethol amser llawn, naill ai yn y Celfyddydau Perfformio, Celf a Dylunio neu’r Cyfryngau. Y naill ffordd neu’r llall, byddant yn rhan o amgylchedd dynamig ac yn derbyn cymorth gan ddarlithwyr ysbrydoledig a brwdfrydig.
Mae’r cyrsiau Celf a Dylunio yn cynnwys y cyrsiau Safon Uwch Gyfrannol / Uwch canlynol: Dylunio 3D (Cerameg), Celfyddyd Gain, Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth a Thecstilau. Mae’r cyrsiau galwedigaethol yn cynnwys y Diploma Cyntaf a Chenedlaethol mewn Celf a Dylunio. Os bydd y myfyrwyr yn penderfynu astudio’r naill neu’r llall o’r cyrsiau hyn, fe’u haddysgir yn yr holl feysydd celf a dylunio a addysgir ar Safon UG / Uwch, yn ogystal â derbyn darlithoedd penodol mewn Astudiaethau Hanesyddol a Chyd-destunol. Addysgir y dosbarthiadau mewn stiwdios sy’n benodol i’r pwnc gan ddefnyddio offer safon diwydiant. Ceir cyfle hefyd i arddangos gwaith celf a dylunio, ffotograffiaeth ac amlgyfrwng. Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ystod o raddau Celf a Dylunio, gan gynnwys Pensaernïaeth, Ffasiwn, Cyfathrebu Graffig, Cerameg a Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau.
Mae’r pynciau Safon UG / Uwch yn y Cyfryngau yn cynnwys Astudiaethau Ffilm ac Astudiaethau’r Cyfryngau, neu gellir dilyn cwrs galwedigaethol amser llawn, gan gynnwys y Diploma Cyntaf a Chenedlaethol yn y Cyfryngau. Bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant mewn meddalwedd a gydnabyddir gan y diwydiant, gan gynnwys Adobe Photoshop, Premiere Pro a Macromedia Flash. Rhoddir cyfle iddynt weithio ar brosiectau ‘byw’, lle byddant yn cysylltu â chleientiaid ac yn dangos eu darn o waith terfynol.
Mae’r Celfyddydau Perfformio yn cynnwys y cyrsiau Safon UG / Uwch canlynol: Dawns, Astudiaethau Theatr, Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerdd. Mae’r cyrsiau galwedigaethol yn cynnwys Diploma Cyntaf yn y Celfyddydau Perfformio a chyrsiau Diploma Cenedlaethol mewn Ymarfer Cerdd, Technoleg Cerdd a’r Celfyddydau Perfformio (gan arbenigo mewn Theatr Gerdd, Dawns neu Ddrama). Er mwyn cyfannu eu dysgu, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i weithio gyda nifer o berfformwyr proffesiynol a fydd yn rhoi ystod o ddosbarthiadau meistr a sgyrsiau. Ceir llawer o gyfleoedd i berfformio a gall y myfyrwyr berfformio mewn lleoliadau proffesiynol, tra bod hyfforddiant techneg a pherfformio ychwanegol ar gael o fewn ein prosiectau allgyrsiol llwyddiannus: côr y Coleg, Cwmni Theatr Gerdd Ovation a Chwmni Dawns LIFT.
Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd creadigol ac yn defnyddio offer diwydiant sydd ar flaen y gad. Yn ddiweddar, agorasom Ganolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ar Gampws Castell-nedd; sef canolfan newydd y celfyddydau perfformio gwerth £2 filiwn, sy’n cynnwys theatr bwrpasol gydag awditoriwm â 170 o seddau. Ni yw’r unig Goleg yn yr ardal hon ag offer diwydiant o’r radd flaenaf. Mae Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn darparu sbotolau er mwyn i’n dysgwyr mewn drama, dawns, theatr gerdd a pherfformiad cerddorol feithrin eu doniau. Mae’r Ganolfan Gelfyddydau hefyd yn gartref i ddwy stiwdio amlbwrpas gyfarparedig ar gyfer sesiynau perfformio ymarferol, y byddwch yn eu profi yn ddyddiol.
Un o nodweddion pwysig iawn CGPh yw ein hamgylchedd gofalgar a chefnogol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ragori. Mae cyfarwyddyd ardderchog ar gael ynghylch astudiaethau pellach mewn Addysg Uwch a cheir budd o’n cysylltiadau cryf gyda cholegau galwedigaethol arbenigol. Mae dysgwyr diweddar yn CCNPT wedi ennill lleoedd yng Nghanolfan Stiwdio Llundain, Academi Urdang, Coleg Bird, Canolfan Laban, Ysgol Ddawns Gyfoes y Gogledd, Academi Gelfyddydau Mountview a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae CGPh yn ganolfan ragoriaeth greadigol sy’n darparu ansawdd a phroffesiynoldeb. Edrychwn ymlaen at groesawu darpar fyfyrwyr a’u rhieni i’r Coleg.