FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
ENGLISH VERSION HAS BEEN CHANGED SINCE THIS TEXT WAS INSERTED
Yr Ysgol Adeiladu yw’r Ysgol fwyaf yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot. Ar y cyd â’r Ysgol Beirianneg, mae’n ffurfio rhan fawr o’r Gyfadran Technoleg ac Arloesi.
Mae’r Ysgol Adeiladu yn cynnig ystod eang o raglenni sy’n cwmpasu nifer o’r disgyblaethau crefft adeiladu traddodiadol.
Mae’n un o brif ddarparwyr Addysg Adeiladu yng Nghymru ac mae’n briodol iawn ar gyfer y rheini sy’n astudio neu’n cael eu hasesu ar Lefelau 1 i 4. Mae’r Ysgol hefyd yn ehangu ystod y cyrsiau Addysg Uwch a gynigir yn gynyddol. Mae gan y Coleg statws ‘Coleg Achrededig’ gyda Phrifysgol Morgannwg ac mae’n cynnig Rhaglenni HNC a Gradd Sylfaen mewn Technoleg a Rheolaeth Adeiladu. Mae dros 1300 o fyfyrwyr a dysgwyr hŷn yn mynychu’r Ysgol bob wythnos, gan gynnwys bron 300 o bobl ifanc 14 i 16 oed.
Cyflenwir rhaglenni Adeiladu ar bob un o’r tri phrif gampws: Llansamlet, Abertawe, lle ceir Canolfan Hyfforddi Crefft Adeiladu bwrpasol (gyferbyn ag archfarchnad ASDA a PC World); Campws Castell-nedd, lle cynigir astudiaethau Crefft Adeiladu a Thechnegydd / Technegydd Uwch (hyd at lefel 5), a Champws Afan lle mae Canolfan Ynni a Chanolfan Hyfforddi ac Asesu Nwy uchel ei pharch yr Ysgol wedi’u hadleoli yn ddiweddar.
Mae ailstrwythuro yn y Coleg, ynghyd ag adeiladu Canolfan Ddysgu Electronig newydd gwerth chwe miliwn o bunnoedd ac adleoli’r gweithdai Peirianneg Fecanyddol ar gampws Castell-nedd, wedi creu lle addysgu ychwanegol, sydd wedi’i adnewyddu ar gyfer yr Ysgol Adeiladu.
Mae campws Llansamlet, Abertawe wedi’i ehangu yn ddiweddar ac mae gwell cyfleusterau wedi’u cynnwys.
Mae cyfleuster Hyfforddiant Cynnal a Chadw Adeiladau arbenigol, newydd wedi’i sefydlu yng Nghaerau, ger Maesteg. Mae’r Ganolfan arloesol hon wedi’i sylfaenu i ddiwallu anghenion hyfforddi’r prif ddarparwyr tai cymdeithasol. Mae’r Ganolfan yn mynd i’r afael ag anghenion y gadwyn gyflenwi (cyflenwyr / is-gontractwyr, ac ati) a’r gofynion a osodwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a Safon Ansawdd Tai Cymru, er mwyn darparu tai boddhaol. Mae’r Ysgol wedi’i hachredu i gynnig cymwysterau’r Sefydliad Rheolaeth Cynnal a Chadw ac Adeiladu (IMBM) mewn Rheolaeth Cynnal a Chadw Adeiladau ar Lefelau 3 a 4.
Mae nifer o’r staff yn syrfewyr adeiladu profiadol ac maent wedi cymhwyso fel Arolygwyr Cartref ar gyfer yr Adroddiadau Cyflwr Cartref gwirfoddol. Mae’r Ysgol yn datblygu cysylltiadau agos gyda nifer o Ganolfannau Asesu ar gyfer y Diploma Arolygydd Ynni er mwyn bodloni gofynion graddio y Gyfarwyddeb Perfformiad Ynni Adeiladau.
Mae gwaith recriwtio myfyrwyr wedi ehangu yn y rhan fwyaf o feysydd adeiladu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ym mlwyddyn academaidd 2004/2005, roedd nifer yr ymrestriadau gan fyfyrwyr mewn Adeiladu wedi cynyddu 20%, ac yn 2005/2006, cyflawnwyd lefel debyg o dwf o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r twf hwn wedi’i gynnal ac mae meysydd galwedigaethol fel Gwaith Saer ac Asiedydd wedi ehangu hyd yn oed ymhellach. Mae hyn yn adlewyrchu hyder cynyddol gan y cyhoedd yn y Diwydiannau Adeiladu / Eiddo fel darparwyr gyrfaoedd cynaliadwy hirdymor a Choleg Castell-nedd Port Talbot fel y “lle ar gyfer eich dyfodol”. Mae prinder sgiliau crefft adeiladu traddodiadol yn ffactor cynyddol bwysig. Mae’r ‘Datganiad Rhanbarthol o Anghenion a Blaenoriaethau ar gyfer De Orllewin Cymru - 2006-2007’ yn cadarnhau’r galw am y fath wasanaethau.
Mae darpariaeth sylweddol ar gyfer ysgolion (14-16) yn gweithredu drwy’r Ganolfan gwricwlwm leol ac, os ydynt yn llwyddiannus, mae’r myfyrwyr yn ennill Dyfarniad Adeiladu Sylfaen (F.C.A.) mewn Gweithrediadau Crefft Adeiladu. Mae trefniadau partneriaeth tebyg yn bodoli gydag ysgolion lleol unigol, amrywiol. O fewn y meysydd hyn, cyflwynir y myfyrwyr i bedair crefft adeiladu.
Cynhelir cysylltiadau cryf gyda diwydiant lleol, drwy weithgareddau cyswllt diwydiannol amrywiol e.e.: asesiadau seiliedig ar waith, cyfarfodydd Hyfforddiant Grŵp; a chynhelir cysylltiadau proffesiynol gyda Sgiliau Adeiladu, y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB), Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), Sgiliau Asedau, ac ati, a nifer o ddarparwyr hyfforddiant.
Mae ymweliadau diwydiannol a gwaith asesu ar y safle yn rhan gynyddol o’r broses o gyflenwi rhaglenni.
Cyflenwir cyrsiau byrion ar gyfer diwydiant lleol mewn meysydd fel: Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD), Tirfesur, Sgiliau Saernïaeth a Phlaen Cafnu, ac ati. Mae mentrau adennill costau ar gael drwy brosbectws Ionawr 2008 ac mae’r Coleg yn croesawu cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i gynllunio a datblygu pecynnau hyfforddiant pwrpasol.
Mae darpariaeth Addysg i Oedolion yn bodoli ym maes Gosod Brics, mewn cysylltiad â rhaglenni Dysgu Gydol Oes Castell-nedd Port Talbot.
Mae’r Ysgol wrthi ar hyn o bryd yn cyflwyno gwasanaethau asesu ar gyfer dyfarniadau NVQ amrywiol i dechnegwyr a gweithwyr proffesiynol ar lefelau 3 a 4, a byddai’n croesawu cynigion gan ddiwydiant lleol a’r sector cyhoeddus i weithredu cynlluniau hyfforddiant ar gyfer eu staff.
Mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i yrfaoedd hirdymor o fewn Proffesiynau amrywiol yr Amgylchedd Adeiledig, Rheoli Adeiladu a Diwydiannau Perthynol.
Ceir meysydd o gyflawniad eithriadol gan ddysgwyr, darlithwyr, ac ati, e.e. Plastro, lle enillwyd Dyfarniadau Cenedlaethol yn rheolaidd, y Dystysgrif Genedlaethol mewn Adeiladu – lle, yn 2003/04, 2005/06 a 2006/07, enillodd y myfyrwyr y graddau uchaf yng Nghymru – yn eu hastudiaethau BTec Edexcel. Mae hyn wedi’i gydnabod gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil gyda gwobr a Dyfarniadau sylweddol.
Mae nifer o staff newydd wedi’u recriwtio ar raddau: Technegydd, Technegydd / Hyfforddwr, Hyfforddwr a Darlithydd. Mae’r staff wedi cael profiad adeiladu sylweddol sy’n uniongyrchol berthnasol ac maent yn hollol gymwys yn academaidd yn eu meysydd pwnc arbenigol, e.e. mae staff heb gymwysterau addysgu ffurfiol yn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn gyflym iawn drwy ennill Dyfarniadau Asesydd a Dilyswr, cymwysterau Addysgu TAR, ac ati, er mwyn datblygu eu gyrfaoedd darlithio.
Mae’r Ysgol wedi cynnig rhaglenni Addysg Uwch ers 1996. Cafwyd bod y modd o gyflenwi HNC (a gynigir mewn cysylltiad â phrifysgolion partner) gyda’r nos yn unig, yn ddeniadol i ymgeiswyr aeddfed, sy’n gweithio o fewn y diwydiant adeiladu.
Mae’r mentrau Lefel Uwch a ystyrir ar gyfer y dyfodol yn cynnwys: rhaglenni mewn Arolygu Adeiladau a Dylunio Mewnol.
Mae’r Ysgol wedi Marchnata mewn nifer o ddigwyddiadau mawr, ac mae’r staff yn annerch Digwyddiadau Lleol a Chenedlaethol yn rheolaidd ar bynciau o ddiddordeb. Mae datblygiadau cwrs pellach wedi’u cynllunio – mewn cysylltiad â Hyfforddiant Cymru Cyf.
Mae’r Ysgol yn darparu gwasanaeth gwerthfawr ar gyfer sector yr amgylchedd adeiledig ar draws rhan helaeth o Dde Cymru. Gobeithiwn gael cyfle i drafod eich anghenion yn y dyfodol a chefnogi eich datblygiad personol. Beth am gysylltu â ni?