FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Ysgolion |
Lleolir yr Ysgol Arlwyo, Pobi a Lletygarwch mewn bloc annibynnol a adeiladwyd i’r pwrpas sy’n cynnwys bwyty hyfforddi, siop fara ynghyd â cheginau cynhyrchu arbenigol, poptai ac ystafelloedd dysgu.
Dros y blynyddoedd mae’r ysgol wedi cadw ei henw da o ran cynhyrchu hyfforddiant o ansawdd uchel ymhob agwedd ar ddarparu cyrsiau. Yn ddiweddar mae myfyrwyr wedi cyflawni Medalau Rhagoriaeth mewn Crefft Siwgr, medalau Aur, Arian ac Efydd am eu sgiliau coginio a gwasanaeth sydd i’w gweld yn y bwyty hyfforddi Blasus a’r siop goffi. Mae gan yr ysgol hefyd siop fara, Y Pobty lle y mae’r myfyrwyr pobi yn gwerthu eu bara a’u teisennau. Mae’r cyfleusterau i gyd ar agor i’r cyhoedd yn ystod y tymor.
Mae cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth yn wych ac mae gennym gyn-fyfyrwyr dros y byd i gyd yn ogystal â mewn uwch swyddi mewn sefydliadau lleol.
Mae gennym dîm ymroddedig o staff sy’n monitro cynnydd y myfyrwyr yn agos. Gall myfyrwyr rhan-amser wella eu sgiliau yng ngweithle’r Coleg, ar lefel 2 a 3 ymhob agwedd ar arlwyo, pobi a lletygarwch.
Darperir cyrsiau gan ddechrau am Lefel mynediad 1 mewn Arlwyo hyd at lefel 5 HND mewn Lletygarwch.
Dyma’r prif gymwysterau amser llawn a rhan-amser:
Mae cyrsiau byrion hefyd ar gael o fewn i’r Ysgol mewn Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, Maetheg a Bwyta’n Iach.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Judith Williams Pennaeth yr Ysgol.