FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cymorth i Ddysgwyr |
Mae Gwasanaethau Dysgwyr wedi’u lleoli ar Gampysau Castell-nedd ac Afan. Mae Cynghorwyr Dysgwyr wrth law i gynnig cyngor a chyfarwyddyd ar ystod eang o faterion personol, cymdeithasol, ariannol ac academaidd. Mae ein staff cyfeillgar bob amser ar gael i drafod unrhyw bryderon neu ofidiau a allai fod gennych.
Mae gan Wasanaethau Dysgwyr adnoddau i’ch helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch dyfodol, pa un a ydych yn ystyried y byd gwaith, ymgeisio am addysg uwch, neu’n chwilio am syniadau ar gyfer ‘blwyddyn allan’.
Mae eich safbwyntiau yn bwysig ac rydym yn weithredol wrth geisio safbwyntiau a barn dysgwyr drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Efallai y bydd dysgwyr yn gallu ymgeisio am gyllid i helpu gyda chost dysgu.
Mae 2 brif ffynhonnell cymorth ar gael:
Mae gwybodaeth bellach a ffurflenni cais ar gael oddi wrth Wasanaethau Dysgwyr. Gellir hefyd lawrlwytho ffurflenni cais oddi ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Ceir hefyd y Gronfa Gymorth i Ddysgwyr, sef cronfa ddewisol a weinyddir gan y Coleg. Gall helpu gyda chostau trafnidiaeth, prydau, offer sy’n gysylltiedig â’r cwrs, dillad a gofal plant. Gellir cael ffurflenni cais oddi wrth Wasanaethau Dysgwyr. Nodwch os gwelwch yn dda fod y cronfeydd yn gyfyngedig, felly mae ceisiadau cynnar yn hanfodol. Dyfernir y cronfeydd ar sail y cyntaf i’r felin.
Mae cymorth ariannol a chyngor hefyd ar gael i ddysgwyr sy’n bwriadu mynd ymlaen i Addysg Uwch amser llawn neu ran amser. Am drosolwg ar ffioedd cyrsiau ac argaeledd cyllid, cliciwch yma neu am wybodaeth lawn ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr AU, cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr ar 01639 648404.
Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda Gyrfa Cymru Gorllewin. Mae Cynghorwyr Gyrfaoedd yn cysylltu â’ch tiwtorialau personol i roi cyngor a chyfarwyddyd am gyrsiau ar gyfer y dyfodol a/neu ddyheadau gyrfa pellach. Gallwch hefyd drefnu apwyntiadau unigol gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd drwy alw heibio i Wasanaethau Dysgwyr neu drwy ffonio Debbie James-Haley 01639 635306 neu Michele David 01639 648418 (Campws Castell-nedd) neu Alison O’Leary ar 01639 648227 (Campws Afan).
Gallwch hefyd gysylltu â chynghorwyr drwy anfon e-bost: deborah.james-haley@cwwest.co.uk michele.david@cwwest.co.uk alison.oleary@cwwest.co.uk
Yn ystod gwyliau’r coleg gallwch gysylltu â Swyddfeydd Gyrfa Cymru am ragor o gyngor a chefnogaeth:
Canolfan Yrfaoedd Castell-nedd, 7 Waters Street, Castell-nedd 01639 636391
Swyddfa Yrfaoedd Port Talbot, 30 Forge Road, Port Talbot 01639 871933
Mae’r Llyfrgelloedd Gyrfaoedd ar Gampysau Castell-nedd ac Afan wedi’u lleoli o fewn Gwasanaethau Dysgwyr. Mae ystod eang o adnoddau, prosbectysau a meddalwedd yrfaoedd gyfredol ar gael i’ch cyfarwyddo a’ch hysbysu.
Am wybodaeth a chyngor gyrfaoedd 24/7 ewch i www.gyrfacymru.com
Gallwch hefyd ymweld â ni ar y wefannau Cyfryngau cymdeithasol canlynol:
![]()
![]()
![]()
![]()
Cwnsela yw’r broses syml o siarad gyda gwrandäwr profiadol ynglŷn ag anawsterau sy’n eich pryderu neu’n effeithio arnoch. Mae cwnselwyr yn creu rhywle diogel lle’r ydych yn rhydd i archwilio eich teimladau a’ch meddyliau yn agored. Gall y materion hyn fod yn y presennol neu yn y gorffennol.
Mae gan Gwnselydd y Coleg gymwysterau proffesiynol ac mae ganddo brofiad helaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae’r Cwnselydd yn gweithio yn unol â Chod Moeseg ac Ymarfer proffesiynol penodedig, sef Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP). Mae’r Cwnselydd ar gael i weld dysgwyr amser llawn a rhan amser drwy gydol y flwyddyn ac mae wedi’i leoli yng Ngwasanaethau Dysgwyr:
(Mae rhai apwyntiadau gyda’r nos ar gael ar adegau penodol).
I drefnu apwyntiad, cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr ar:
Castell-nedd: 01639 648404 neu Afan: 01639 648504
Neges llais gyfrinachol: 01639 648415
Mae nifer o ddarlithwyr pwnc hefyd yn diwtoriaid personol a/neu’n gydgysylltwyr cwrs ar gyfer unigolion a grwpiau o ddysgwyr. Pennir tiwtor personol ar gyfer pob myfyriwr Safon Uwch / Uwch Gyfrannol amser llawn ac mae pob myfyriwr galwedigaethol yn gyfrifoldeb i gydgysylltydd cwrs. Y tiwtor yw’r man galw cyntaf er mwyn i fyfyrwyr drafod unrhyw faterion / pryderon a allai fod ganddynt. Un o’u swyddi yw eich hysbysu a’ch helpu i ofalu am eich lles personol, cymdeithasol ac academaidd yn y coleg.
Mae’r tîm Gwasanaethau Dysgwyr cyfeillgar hefyd ar gael yn barod i gynorthwyo dysgwyr gydag unrhyw bryderon / gofidiau a allai godi. Byddant yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn mwynhau amser hapus a llwyddiannus tra eich bod yn astudio.
Bydd eich darlithydd pwnc yn eich addysgu, cyfarwyddo, helpu a’ch ysgogi i’ch galluogi i ennill y wybodaeth, sgiliau astudio a’r agweddau hanfodol er mwyn caniatáu i chi wneud cynnydd.
Bydd y prif ddarlithydd, ynghyd â’ch tiwtor personol / cydgysylltydd cwrs, yn eich cynorthwyo gydag unrhyw faterion a allai effeithio ar eich astudiaethau, gan gynnwys problemau personol. Gall y prif ddarlithwyr helpu mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
Os ydych yn teimlo bod arnoch angen cymorth ychwanegol i gwblhau eich astudiaethau, gallwch ei dderbyn oddi wrth eich anogwr dysgu. Gall ef/hi eich cyfarwyddo a’ch cynorthwyo drwy unrhyw broblemau a allai fod gennych, a’ch helpu i wneud y gorau o’ch amser yn y Coleg.
Mae gennych hawl i deimlo’n ddiogel. Ni ddylai pobl eraill eich anafu neu’ch cam-drin. Mae lles dysgwyr o’r pwys mwyaf.
Perchir cyfrinachedd wrth ymdrin â materion dysgwyr yn CCNPT. Fodd bynnag, mae rhai amgylchiadau lle na ellir gwarantu cyfrinachedd, sef:






