FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cymorth i Ddysgwyr |
Mae Coleg Castell-nedd Port Talbot yn croesawu ceisiadau gan bob myfyriwr heb ystyried eu hoedran, rhyw, anabledd neu darddiad ethnig. Bydd y Coleg yn asesu anghenion cymorth dysgwyr ac yn ymateb yn unol â hynny drwy ddarparu’r adnoddau dynol / technegol perthnasol. Gall myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol dderbyn cymorth gyda sgiliau astudio, sgiliau sylfaenol / allweddol ac anawsterau dysgu penodol, gan gynnwys dyslecsia. Rhoddir cyfle i ddysgwyr drafod eu hanghenion cymorth ychwanegol gydag aelod o’r Tîm Dysgu Cynhwysol. Mae’r Coleg yn meithrin cysyniad Dysgu Cynhwysol – ‘er mwyn darparu’r cydweddiad neu’r ffit orau rhwng sut y mae dysgwr yn dysgu orau a’r cyfleoedd dysgu a ddarperir.’ Gall myfyrwyr gael gwybodaeth bellach ynglŷn â chymorth dysgu ychwanegol drwy’r:
Gall yr holl fyfyrwyr gael cymorth ychwanegol gyda’u Cymraeg*, Saesneg a/neu fathemateg os oes arnynt ei angen. Os ydych yn meddwl y gallech fod yn y sefyllfa honno, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw gofyn i’ch cydgysylltydd cwrs.
*yn dibynnu ar argaeledd staff