DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
The Electronic Library
Cymorth i Ddysgwyr

Y Llyfrgell Electronig

Gwybodaeth ar eich bwrdd gwaith 24/7

 

Croeso i e-lyfrgell Coleg Castell-nedd Port Talbot, sef casgliad o wefannau ac adnoddau ar-lein o’r ansawdd gorau a ddewiswyd i’ch helpu gyda’ch ymchwil a’ch astudiaeth.

 

I gyrchu rhai o’r adnoddau hyn, bydd angen i chi gael enw defnyddiwr a chyfrinair ATHENS. Sgroliwch i waelod y dudalen hon am fanylion ynglŷn â sut i gael eich rhai chi.

 

Adnoddau Diddordeb Cyffredinol

 

Adnodd Beth ydyw? Sut i’w gyrchu
dawsonera E-lyfrau: Detholiad o werslyfrau electronig. Chwiliwch a darllenwch ar-lein, printiwch neu llwythwch i lawr y llyfrau sydd eu heisiau arnoch chi. Ar ac oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
MyiLibrary E-lyfrau: fersiynau ar-lein o werslyfrau sy’n gysylltiedig â chyrsiau. Copïau union o lyfrau dewisedig y byddech fel arfer yn dod o hyd iddynt yn y llyfrgell. Gallwch eu darllen ar-lein neu argraffu’r rhannau sydd eu hangen arnoch. Ychwanegir teitlau newydd yn rheolaidd. Ar y campws:  ewch yn syth i MyiLibrary

Oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
ebrary E-lyfrau: a collection of over 2,000 textbooks covering a huge range of subjects. Ar y campws: go straight to ebrary

Oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
Credo Reference E-lyfrau: dros 100 o gyfeirlyfrau o’r ansawdd gorau er mwyn ymchwilio i ffeithiau a ffigurau yn gyflym. Mae’r casgliad yn cynnwys geiriaduron, gwyddoniaduron a chyfeiriaduron. Chwiliwch y casgliad cyfan neu deitlau unigol. Ar y campws: ewch yn syth i Credo

Oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
Issues Online E-lyfrau: gwybodaeth gyfredol am faterion cymdeithasol cyfoes. Cwmpesir dros 60 o destunau mewn pynciau fel trosedd ac anrhefn, materion iechyd, yr amgylchedd, camddefnyddio cyffuriau, y teulu a chydberthynasau, hawliau a gwahaniaethu, a mwy. Mae’n cynnwys erthyglau, ystadegau a chanllawiau astudio. Ar ac oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
Gale Custom Newspapers Database:  articles, opinions and  statistics covering a wide range of topics and  contemporary social issues. On and off campus: go straight to Complete Issues

Note: Please contact library staff to obtain a password.
Gale Custom Newspapers E-journals: full  text access to the ‘Reviews’ archive.   Hundreds of articles covering 14 A level subjects On and off campus: go straight to Philip Allan Magazines

Note: Please contact library staff to obtain a password.
Gale Custom Newspapers
Papurau Newydd
Arbennig Gale
E-gyfnodolion: Cynnwys testun llawn o 40 o bapurau newydd cenedlaethol a lleol; diwedderir yn ddyddiol. Mae’r archifau yn dyddio o 1985. Ar ac oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
Gale Generaln Onefile
Un Ffeil
Gyffredinol Gale
E-gyfnodolion: Ffynhonnell un stop ar gyfer erthyglau newyddion a chyfnodolion ar ystod eang o destunau: busnes, cyfrifiaduron, materion cyfoes, economeg, addysg, materion amgylcheddol, gofal iechyd, hobïau, y dyniaethau, y gyfraith, llenyddiaeth a chelfyddyd, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth, gwyddorau cymdeithasol, chwaraeon, technoleg, a llawer o destunau diddordeb cyffredinol. Miliynau o erthyglau testun llawn, llawer ohonynt â delweddau. Diwedderir yn ddyddiol. Ar ac oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
Gale Virtual Reference Library
Llyfrgell Gyfeirio
Rithwir Gale
E-lyfrau: Deunyddiau ymchwil arbenigol yn cwmpasu’r celfyddydau, busnes, hanes, gwyddorau cymdeithasol, iechyd, gwyddoniaeth a mwy. Ar ac oddii ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
Know UK E-lyfrau: dros 100 o gyfeirlyfrau a llyfrau ymchwil sy’n cynnwys gwybodaeth am y DU. Mae’r teitlau yn cynnwys: Who's Who, The Good Food Guide, Actor's Yearbook, Social Trends, Voluntary Agencies Directory a llawer mwy. Ar ac oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
Casgliad fideos: storïau newyddion a fideos dewisedig o archifau asiantaethau newyddion ITN a Reuters. Dros 3,000 o oriau o ffilmiau fideo yn cwmpasu rhyw 60,000 o storïau. Mae’r ffilmiau yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif hyd heddiw. Ar y campws: ewch yn syth i Newsfilm Online a chliciwch ar 'Login by direct access'

Oddi ar y campws: mae’n ddrwg gennym ond nid yw ar gael

Zetoc

Gwasanaeth darganfod erthyglau: Mynediad at Dabl Cynnwys Electronig y Llyfrgell Brydeinig o ryw 20,000 o gyfnodolion cyfredol a rhyw 16,000 o drafodion cynadleddau a gyhoeddir fesul blwyddyn. Mae’r gronfa ddata yn cwmpasu’r cyfnod o 1993 hyd heddiw, ac fe’i diwedderir yn ddyddiol. (Noder: nid yw Zetoc yn cynnwys unrhyw erthyglau testun llawn. Gofynnwch i aelod o staff y llyfrgell am wybodaeth ynglŷn â chael copïau o erthyglau.) Ar y campws: ewch yn syth i Zetoc

Oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
library.wales.org Mynediad at wasanaethau llyfrgell ledled Cymru. Mae’n cynnwys Cat Cymru: cyfleuster sy’n caniatáu i chi chwilio holl gatalogau ar-lein llyfrgelloedd Cymru ar yr un pryd. Chwiliwch gatalogau llyfrgelloedd prifysgolion, llyfrgelloedd cyhoeddus, colegau Addysg Bellach a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar ac oddi ar y campws: ewch yn syth i llyfrgell.cymru.org

 

 

Adnoddau Arbenigol

 

Resource What is it? How to access it
Hairdressing Training Canllaw darluniedig cam wrth gam ar greu toriadau gwallt clasurol a’r cynnyrch sydd eu hangen i’w creu a’u cynnal. Ar ac oddi ar y campws: ewch yn syth i Hairdressing Training
Mintel Oxygen Newyddion ac adroddiadau ar ymchwil i’r farchnad defnyddwyr. Ar ac oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens
New Scientist Mynediad llawn at y fersiwn ar-lein o’r cylchgrawn poblogaidd.  Mae’n cynnwys mynediad at yr archif. Ar ac oddi ar y campws: mewngofnodwch drwy Athens

 

Methu â dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano?  Rhowch gynnig ar chwilio Catalog Ar-lein Treftadaeth llyfrgell y coleg i weld a oes gennym lyfr ar eich testun.

 

 

Cyfrinair Athens

Gellir cyrchu rhai adnoddau yn y llyfrgell electronig o unrhyw gyfrifiadur personol: gartref, yn y gwaith, yn yr ardd, neu ble bynnag y mae’n well gennych astudio. I ddefnyddio’r adnoddau hyn, mae arnoch angen enw defnyddiwr a chyfrinair Athens. Mae hyn yn golygu bod gennych un cyfrinair yn unig i gyrchu’r holl adnoddau yn hytrach na chofrestru gyda phob un yn unigol.

 

I gael eich cyfrinair Athens, e-bostiwch eich enw, rhif ymrestru neu staff a rhif ffôn cyswllt at eich gweinyddwr Athens:

 

Campws Afan: karen.hall@nptc.ac.uk

Campws Castell-nedd: emma.price@nptc.ac.uk

 

Pan gewch eich cyfrinair, mewngofnodwch i Athens drwy glicio ar y ddolen a roddir isod i weld rhestr gyflawn o’r holl adnoddau y gallwch eu cyrchu. Gallwch hefyd wirio a diwygio manylion eich cyfrif neu newid eich cyfrinair.

 

Mewngofnodi i Athens