FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Sut i Ymgeisio |
Ni allai fod yn haws ymuno â CCNPT. Dilynwch y camau isod a phe bai gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â’r broses ymgeisio, cysylltwch â Derbyniadau.
Edrychwch yn ofalus drwy’r cyrsiau academaidd neu alwedigaethol y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Defnyddiwch y blwch chwilio yng nghornel chwith uchaf y sgrîn i ddarganfod mwy am gwrs penodol. Os nad ydych wedi penderfynu, trafodwch gyda darlithwyr cyrsiau yn ein nosweithiau agored / gwybodaeth neu’n diwrnodau agored i’ch helpu i wneud eich penderfyniad. I gael amserau / dyddiadau ein digwyddiadau sy’n gysylltiedig â chyrsiau, ewch i’n hadran Dyddiadau Allweddol.
Unwaith y byddwch wedi dewis eich cwrs / cyrsiau, ymgeisiwch ar-lein drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais ar-lein. Cliciwch yma i Ymgeisio Ar-lein... neu lawrlwythwch ffurflen o’r ddolen isod a’i dychwelyd at Dderbyniadau ar gampws o’ch dewis.
Noder: nid ffurflen ymrestru mo hon.
Bydd angen i chi fod wedi gosod Darllenydd Adobe 7.0.5 neu’n uwch ar eich system er mwyn gweld y ffeil hon.
Ar ôl i’ch ffurflen gais gael ei phrosesu, fe’ch gwahoddir i fynychu cyfweliad, naill ai yn yr ysgol neu yn y Coleg. Yn ystod y cyfweliad hwn, byddwch yn gallu trafod eich dewis gwrs ymhellach, yn ogystal â’r gofynion mynediad a’r rhagolygon gyrfa sy’n arwain o’r cwrs hwnnw.
Yn dilyn y cyfweliad, anfonir llythyr atoch yn cadarnhau’r cynnig – naill ai derbyniad pendant neu amodol, gan ddibynnu ar ba un a ofynnwyd i chi gyflawni graddau arholiad penodol neu beidio. Bydd angen i chi ddychwelyd y slip derbyn, a fydd yn cyrraedd gyda’r llythyr cadarnhau, at Dderbyniadau.
Byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth sy’n cynnwys manylion ychwanegol am fywyd myfyriwr yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot ac yn rhoi dyddiadau ymrestru a’r tymhorau.
Os nad ydych wedi cyflawni’r canlyniadau arholiad a ddymunwyd gennych, peidiwch â phoeni, bydd staff ar gael ar y ddau gampws yn ystod y cyfnod ymrestru i roi cyngor a chyfarwyddyd ynglyn â newidiadau posibl i’ch cwrs gwreiddiol. Os ydych wedi cyflawni’r graddau angenrheidiol, ond hoffech newid eich dewis cwrs gwreiddiol, gallwch wneud hyn hefyd yn ystod y cyfnod ymrestru.
Porwch am gwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo drwy ddefnyddio’r blwch chwilio ar ochr chwith uchaf y sgrîn neu drwy lawrlwytho ein prosbectws rhan amser. Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar gwrs penodol, cysylltwch â Derbyniadau yn y lle cyntaf i gael manylion pellach am y broses ymrestru ac i gael ffurflen ymrestru. Bydd y dyddiadau ymrestru ar gyfer cyrsiau rhan amser ar gael yn yr adran Dyddiadau Allweddol unwaith y byddant wedi’u cadarnhau. Nodwch y gellid cynnal y broses ymrestru ar gyfer rhai cyrsiau rhan amser ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhan amser dalu ffioedd fel yr amlinellir yn y prosbectws rhan amser cyfredol. Gall y rhain gynnwys ffioedd cofrestru / arholiad / asesu lle bo’n briodol.
Mae’n rhaid talu’r holl ffioedd adeg ymrestru.
Gall rhai myfyrwyr fod yn gymwys ar gyfer ffioedd gostyngol.
Mae’n bosibl ymgeisio am gyrsiau rhan amser yn ystod ein diwrnod agored, a gynhelir fel arfer ar y dydd Sadwrn olaf ym mis Mehefin. Gwiriwch y Dyddiadau Allweddol am amserau / dyddiadau. Ar gyfer y rheini y mae ganddynt ddiddordeb mewn cyrsiau Adeiladu, fe’ch cynghorir i ymrestru’n gynnar i osgoi siom.
Dylid cyflwyno ceisiadau am yr holl gyrsiau Addysg Uwch amser llawn drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) gan ddefnyddio’r system ymgeisio ar-lein. Mewngofnodwch i www.ucas.com
Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain a’u cynorthwyo drwy broses UCAS gan eu Tiwtoriaid Personol a staff Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae’n hanfodol bod ffurflenni cais yn cael eu cyflwyno’n gynnar er mwyn cwrdd â’r dyddiadau cau a osodir gan UCAS.
Mae Gwasanaethau Dysgwyr yn cadw prosbectysau cyfredol ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch y DU, yn ogystal ag ystod o adnoddau i’ch cynorthwyo wrth ddewis eich pwnc gradd, cwrs neu’ch opsiynau blwyddyn i ffwrdd.
Enw’r Sefydliad: CASTELL-NEDD
Cod y Sefydliad: N13
| Cwrs | Cod y Cwrs | Ffurf Fer ar Deitl y Cwrs |
|---|---|---|
| HND mewn Rheoli a Busnes | 091N | HND/MB |
| HND mewn Lletygarwch a Rheoli Bwyd | 062N | HND/HFM |
| Gradd Sylfaen mewn Rheoli Gofal | LN52 | FdA/CMgt |
| Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Gofal | L510 | FdA/CP |
| Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plant | L520 | FdA/Child |
| Gradd Sylfaen mewn Rheoli Plant | L521 | FdfA/CMgt |
| Gradd Sylfaen yn y Diwydiannau Creadigol (Cynhyrchu’r Cyfryngau) |
WP93 | FdA/CIMP |
| FY Health Sciences | B901 | FYr/HSO |
| HND mewn Cyfrifiadura (Systemau Gwybodaeth) | 004G | HND/Comp |
| Tystysgrif Addysg Uwch mewn Gweithio gydag Oedolion Agored i Niwed | L590 | CertHE/WVA |
| Tystysgrif Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau | L591 | CertHE/SM |
| HND in Media Production | 5013P | HND/MP |
| Diploma Addysg Uwch mewn Hybu Iechyd | L511 | DipHE/HP |
| loma Addysg Uwch mewn Astudiaethau Cwnsela | B940 | DipHE/CS |
| Gradd BSc mewn Astudiaethau Gofal | L512 | BSc/HS |
| Gradd BSc mewn Astudiaethau Plant | L522 | BSc/CHS1 |
| HND mewn Cerddoriaeth Boblogaidd | 013W | HND/PM |
| Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi a Pherfformiad | CX61 | FdA/CoachP |
| HND mewn Rheoli Teithio a Thwristiaeth | 008N | HND/TTM |
| add BSc mewn Peirianneg Systemau Gwybodaeth | G500 | BSc/ISE |
Dylid cyflwyno ceisiadau am yr holl gyrsiau Addysg Uwch rhan amser yn uniongyrchol i CCNPT.
Mae ffurflenni cais ar gael oddi wrth:
Derbyniadau
Campws Castell-nedd
Coleg Castell-nedd Port Talbot
Heol Dŵr-y-Felin
Castell-nedd
SA10 7RF