DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Welsh Baccalaureate
Cyrsiau

Bagloriaeth Cymru

 

Mae CCNPT yn cynnig cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar Lefel Sylfaen, Ganolradd neu Uwch, i fyfyrwyr mewn sawl rhan o’r Coleg. Disgwylir i fyfyrwyr astudio Bagloriaeth Cymru yn ogystal â’u prif raglen astudio.

 

Mae’r cwricwlwm craidd ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn cynnwys:

  • Cymru, Ewrop a’r Byd – Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Cymdeithasol, Economeg, Diwylliant, Iaith ac ymchwiliad unigol
  • Addysg gysylltiedig â gwaith – Profiad Gwaith ac Entrepreneuriaeth
  • Addysg Bersonol a Chymdeithasol – Iechyd, Cydberthynasau, Dinasyddiaeth, Materion Byd-eang a Chyfranogiad Cymunedol

Y cwricwlwm craidd, ynghyd â’i bwyslais cryf ar ‘ddysgu drwy wneud’, sy’n peri bod y cymhwyster hwn yn unigryw. Mae’r myfyrwyr yn cael cyfle i gyfranogi mewn profiadau diddorol sy’n cyfoethogi, a fydd yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt symud ymlaen mewn addysg bellach a gwaith.

 

Nid yw Bagloriaeth Cymru yn cynnwys unrhyw arholiadau fel y cyfryw. Mae’r myfyrwyr yn cwblhau portffolio, sy’n cynnwys y cwricwlwm craidd yn ogystal â thystiolaeth o’u prif raglen astudio. At hynny, mae tystiolaeth o sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, TG, cymhwyso rhif, gweithio gydag eraill, datrys problemau a gwella eich dysgu a’ch perfformiad eich hun, hefyd yn ffurfio rhan annatod o’r portffolio.

 

Dyfernir yr hyn sy’n cyfateb i radd A ar Safon Uwch i fyfyrwyr sy’n llwyddo i gwblhau Diploma Bagloriaeth Cymru ar Lefel Uwch. Gellir ychwanegu hyn at y pwyntiau y maent yn eu hennill yn eu hastudiaethau Safon Uwch / Tystysgrif Addysg Gyffredinol Uwch (AGCE) er mwyn cael mynediad i’r brifysgol, sef un o fuddion ychwanegol eraill y cymhwyster hwn.

 

Am wybodaeth bellach ynglyn â chymhwyster Bagloriaeth Cymru, cysylltwch â:

 

Sue Davies – Lefelau 1 a 2 (Castell-nedd ac Afan): 
Pili Keen – Lefel 2 (Afan):
Claire Gorman – Lefel 3 (Castell-nedd ac Afan):

 

01639 648361/2
01639 648204
01639 648373