FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cyrsiau |
Mae CCNPT yn cynnwys wyth prif gampws sy’n darparu ystod eang o gyrsiau amser llawn a rhan amser.
Mae gennym ddewis diddiwedd o raglenni astudio i ddewis ohonynt, pa un a oes gennych ddiddordeb mewn dilyn llwybr academaidd neu alwedigaethol i addysg uwch neu’n uniongyrchol i’r byd gwaith. I gael golwg fanwl ar y cyrsiau yr ydym yn eu cynnig, defnyddiwch y blwch chwilio yn y gornel chwith uchaf neu cliciwch ar y tabiau lliw uchod. Fel arall, gallwch lawrlwytho prosbectws. Efallai yr hoffech weld y llwybrau dilyniant posibl o’ch cwrs dewisedig. Os felly, cliciwch ar y Mapiau Cwricwlwm ar yr ochr chwith. Os hoffech weld sut le yw’r Coleg drosoch eich hun, yna cliciwch ar ein hadrannau DVDs.
Darperir rhai rhaglenni ar fwy nag un campws, tra bod eraill yn gyfyngedig i un campws neu’r llall. Fodd bynnag, gwasanaethir rhai campysau yn uniongyrchol gan Rwydwaith First Bus, felly ni ddylai byth fod angen i’ch dewis o gwrs gael ei ddylanwadu gan ei leoliad.
Mae gan yr holl fyfyrwyr amser llawn sy’n byw mwy na milltir i ffwrdd oddi wrth eu campws dewisedig (fel yr hed y frân) ac sydd dan 19 oed cyn dechrau’r tymor, hawl i dderbyn trafnidiaeth am ddim i’r coleg ar fysiau First.
Gall yr holl fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg gyrchu gwasanaethau’r Coleg drwy gyfrwng y Gymraeg a chânt gyfle i ymgymryd â rhai elfennau o’u rhaglenni dysgu drwy’r Gymraeg, lle bo staff sy’n siarad Cymraeg ar gael. Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd ar gyfer y rheini sy’n dymuno gwella eu sgiliau llafar ac ysgrifenedig, neu gynnal eu hiaith. Ewch i’r Clwb Croeso am ragor o wybodaeth. Ar gyfer myfyrwyr sy’n fwy cyfforddus yn cynhyrchu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, darperir gwasanaeth cyfieithu. Cysylltwch â’r Coleg am ragor o wybodaeth.
Bydd angen i chi fod wedi gosod Adobe Reader 7.0.5 neu’n uwch ar eich system er mwyn gweld y ffeiliau hyn. Cliciwch yma i’w lawrlwytho.