FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Cyrsiau |
Mae’n ofynnol i’r holl ddysgwyr amser llawn yn y Coleg dalu ffi weinyddol nad yw’n ad-daladwy, sef £40 ar hyn o bryd. Mae’r ffi weinyddol yn cynnwys nifer o wasanaethau gweinyddol, gan gynnwys cyhoeddi Cerdyn Llyfrgell, Cerdyn Adnabod Dysgwr, Pàs Bws (os yw’n briodol), prosesu ceisiadau arholiadau a mynediad at yr holl gyfleusterau cyfrifiadurol, ac ati. Mae’n rhaid talu’r ffi yn ystod y cyfnod ymrestru.
Nid yw’n ofynnol i ddysgwyr sydd wedi ymrestru ar gyrsiau amser llawn dalu ffioedd dysgu neu arholiadau ar gyfer y prif gwrs y maent wedi ymrestru arno. Os ydych yn dymuno ymgeisio am arholiadau y tu allan i’r rhaglen astudio hon, fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd ychwanegol. Fe’ch cynghorir i wirio ymlaen llaw a fydd angen i chi dalu ffioedd arholiadau, oherwydd gallant fod yn swm sylweddol.
Efallai y bydd myfyrwyr ar gyrsiau amser llawn yn gallu ymgeisio am gyllid i helpu gyda chost dysgu. I ddarganfod mwy, ewch i’n hadran Gwasanaethau Dysgwyr.
Mae cyrsiau rhan amser a restrir ar y wefan ac yn y prosbectws yn cynnwys ffi briodol y cwrs sydd i’w thalu adeg ymrestru. Mae’r ffi a ddangosir yn cynnwys ffi weinyddol o £40 y mae’n RHAID i bob dysgwr sy’n ymrestru ar gwrs ei thalu er mwyn cofrestru fel myfyriwr yn y Coleg. Ar ôl talu’r ffi weinyddol, rhoddir cerdyn adnabod y Coleg i’r holl fyfyrwyr, sy’n rhoi hawl i ddysgwyr fanteisio ar gyfleusterau’r Coleg.
Efallai y bydd myfyrwyr ar gyrsiau rhan amser yn gallu ymgeisio am gyllid i helpu gyda chost dysgu. I ddarganfod mwy, ewch i’n hadran Gwasanaethau Dysgwyr.
Efallai y bydd dysgwyr sy’n derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth neu sydd ar incwm cartref isel yn gymwys i dderbyn gostyngiad mewn ffioedd cwrs ar y gyfradd a ddangosir ar gyfer pob cwrs. Pan fyddant yn hawlio ffioedd gostyngol, mae’n rhaid i fyfyrwyr lenwi a dychwelyd Ffurflen 36 CCNPT a dangos prawf o fudd-daliadau / incwm. Gellir cael ffurflenni o’r Swyddfa Gyllid, Campws Castell-nedd neu drwy eu lawrlwytho yma.
Noder: Gall dysgwyr dderbyn uchafswm o ddau gwrs fesul blwyddyn academaidd ar gyfradd y ffi ostyngol.
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhan amser dalu ffioedd cofrestru / arholiadau / asesu lle bo’n briodol. Ar gyfer cyrsiau â ffioedd ychwanegol, mae’r rhain wedi’u cynnwys yng nghyfanswm y ffi sy’n daladwy ac mae’n rhaid eu talu adeg ymrestru.
Noder: Bydd myfyrwyr sy’n gymwys i dderbyn ffioedd gostyngol wedi’u heithrio rhag talu’r £25 gyntaf o’r ffioedd hyn lle bo’r ffi ostyngol yn £45. Lle bo’r ffi ostyngol yn £12/£30 yn llawn, mae’n rhaid i’r dysgwr dalu’r holl ffioedd arholiadau a chofrestru.
Mae cynllun rhandaliadau ar gael i unrhyw fyfyriwr lle bo ffi’r cwrs dros £100. Mae’n RHAID talu trydedd ran o’r taliad wrth ymrestru, ynghyd â ffioedd cofrestru ac arholiadau. Noder bod tâl gweinyddol o £10 ar gyfer y gwasanaeth hwn, sy’n daladwy gyda’r rhandaliad cyntaf. Bydd y ddau randaliad sy’n weddill yn cael eu hanfonebu ddechrau mis Rhagfyr a mis Chwefror.
Pe bai’r Coleg yn canslo dosbarth, neu’n ei symud i ddiwrnod / amser / lleoliad gwahanol, a bod hyn yn annerbyniol i’r dysgwr, bydd ffioedd y cwrs, ynghyd ag unrhyw ffioedd eraill a dalwyd yn cael eu had-dalu.
Gall myfyrwyr sy’n dymuno tynnu’n ôl o gwrs hawlio ad-daliad dan amgylchiadau arbennig yn unig. Bydd y ffi weinyddol o £40 yn cael ei thynnu o unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus.
Ni fyddai gan y rheini sy’n derbyn ffioedd cwrs gostyngol hawl i dderbyn ad-daliad ar ffioedd cwrs. Fodd bynnag, byddai unrhyw ffioedd arholiadau / cofrestru nas talwyd i’r cyrff dyfarnu eisoes, yn cael eu had-dalu.
Am wybodaeth bellach ynglyn ag ad-dalu ffioedd, cyfeiriwch at Bolisi Ffioedd y Coleg.
Os na thelir y ffioedd, bydd angen i’r Coleg gymryd camau angenrheidiol i adennill y swm heb ei dalu, a allai arwain at gamau adennill dyled. Os bydd y trydydd parti e.e. cyflogwr, yn methu â thalu, bydd y myfyriwr yn atebol am gost y cwrs..
Mae’n ofynnol i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau AU amser llawn dalu ffioedd cwrs. Gallwch, os ydych yn dymuno gwneud hynny, gymryd benthyciad ffioedd dysgu, sy’n ad-daladwy ar ôl graddio a phan fyddwch yn ennill mwy na £15,000 y flwyddyn yn unig.
Mae pob myfyriwr mewn addysg uwch amser llawn yn gymwys i dderbyn benthyciad, a bennir gan incwm eich cartref. Byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad yn y mis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs, a bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn gysylltiedig â’ch incwm.
Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC AU) - Mae’r grant hwn ar gael i helpu gyda chost AU ac mae’n cael ei asesu yn ôl incwm. Nid oes yn rhaid i chi ad-dalu’r grant hwn. Ar gyfer y rheini ar yr incwm cartref isaf, gallai hyn fod cymaint â £2,835 y flwyddyn.
Cronfa Ariannol wrth Gefn (Cronfa Cymorth Dysgwyr) - Mae ffurflenni cais a chyngor ar gael oddi wrth Wasanaethau Dysgwyr. Mae’r gronfa ariannol wrth gefn yn darparu cymorth ar gyfer myfyrwyr y gall fod arnynt angen cymorth ariannol ychwanegol i’w helpu i gwblhau eu cwrs.
Noder: Mae’r uchod yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau’r Coleg a ariennir yn uniongyrchol yn unig – ar gyfer pob cwrs AU arall, cysylltwch â’r brifysgol bartner.
Y cam cyntaf wrth ymgeisio am bob math o gymorth ariannol ar gyfer cyrsiau amser llawn yw llenwi ffurflen PN1, sydd ar gael oddi wrth eich Awdurdod Addysg Lleol (AALl) neu Wasanaethau Dysgwyr. Dylid ei llenwi a’i dychwelyd, ynghyd â’r holl ddogfennaeth ategol, at eich AALl cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn hysbysiad o’ch asesiad cyn gynted â phosibl a bod eich cymorth ariannol yn ei le cyn bod eich cwrs yn dechrau. Peidiwch ag aros i’ch lle yn y coleg gael ei gadarnhau – llenwch a dychwelwch y PN1 yn ddi-oed, a chysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Mae cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr rhan amser ar gael oddi wrth sawl ffynhonnell a gallai gynnwys cymorth gyda ffioedd a chostau cwrs. Mae cymhwysedd yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol a’ch statws ariannol unigol. I ddarganfod mwy am eich hawl, cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr i drefnu apwyntiad.
Mewn amgylchiadau penodol, mae cymorth ychwanegol ar gael, er enghraifft:
Mae LDA ar gael ar gyfer dysgwyr Addysg Uwch amser llawn a rhan amser ag anableddau. Gellir defnyddio’r lwfans i helpu gyda’r costau ychwanegol a allai fod gennych o ganlyniad i fynychu eich cwrs ac o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd. Mae’r lwfans hwn ar gael yn ogystal â mathau eraill o gymorth ariannol ac nid yw’n ad-daladwy. Yn yr un modd â’r holl gyllid i ddysgwyr, mae’n rhaid i chi ymgeisio am LDA drwy eich AALl, a fydd yn asesu eich anghenion cymorth yn unigol. Mae canllaw o’r enw ‘Pontio’r Bwlch’ yn darparu gwybodaeth fanylach, ac mae ar gael oddi wrth Wasanaethau Dysgwyr neu’ch AALl. Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach ynglyn â’r maes hwn neu unrhyw faes arall o gyllid i ddysgwyr, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Dysgwyr.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach ynglyn â’r maes hwn neu unrhyw faes arall o gyllid i ddysgwyr, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Dysgwyr ar 01639 648404 (Campws Castell-nedd) neu 01639 648504 (Campws Afan).