DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Blasus Training Restaurant
Gwasanaethau Hyfforddi a Masnachol

Blasus Training Restaurant

 

Mae myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot (CCNPT) yn cynnig gwledd gyda bwyty hyfforddi CCNPT gwerth £45,000, sydd newydd ei adnewyddu.

 

Mae Blasus, bwyty hyfforddi Paragon gynt a enillodd wobrau, wedi agor gydag enw newydd, golwg newydd a bwydlen newydd ar ôl cael ei atgyweirio a’i ailwampio yn ystod toriad haf 2008 myfyrwyr y Coleg.

 

Mae Blasus, sydd â lle i hyd at 50 o bobl, yn cael ei redeg a’i reoli yn gyfan gwbl gan fyfyrwyr a staff CCNPT, ac mae’n darparu hyfforddiant yn y gwaith a phrofiad bywyd go iawn ar gyfer yr holl fyfyrwyr NVQ Busnes, Arlwyo a Lletygarwch sy’n cymryd rhan.

 

Sefydlwyd bwyty hyfforddi CCNPT yn gyntaf dros ddeng mlynedd yn ôl. Ers hynny, cafodd filoedd o gwsmeriaid ac amrywiaeth o wobrau, fel y Bwyty Coleg gorau yng Nghymru a Gorllewin Lloegr yn 2004.

 

Mae bwydlen newydd y bwyty yn amrywio o £8.95 (am ginio tri chwrs) i £16.50 (am swper pedwar cwrs) ac mae’n cynnwys gazpacho wedi’i ysbrydoli gan Andalwsia, eog Albanaidd seriedig a ffondant siocled cynnes.

 

Hefyd, mae rhan o’r bwyty wedi troi’n lolfa goffi sydd ag amrywiaeth o fyrbrydau a lluniaeth y gellir eu mwynhau o 10.00am i 1.30pm yn ystod oriau agor y coleg.

 

Yn ystod amser tymor y Coleg, mae Blasus yn agored ar gyfer gwasanaeth cinio o ddydd Mawrth i ddydd Gwener ac mae’n agored tan 9.00pm ar ddydd Mercher ar gyfer gwasanaeth swper.

 

Gall y bwyty arlwyo ar gyfer unigolion, grwpiau bach, partïon mawr a chyfarfodydd corfforaethol. I archebu lle, cysylltwch â gwasanaeth archebu’r bwyty ar 01639 648342.

Blasus Training RestaurantBlasus Training Restaurant