DARGANFYDDWR CYRSIAU CCNPT
MODD ASTUDIO:
GAIR ALLWEDDOL:
Adult Learning
Dysgu Oedolion

Dysgu Oedolion

 

Mae’r Ysgol Addysg Oedolion a Chymunedol yn cynnig ystod o raglenni astudio mewn canolfannau ledled Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae gennym ddwy Ganolfan Allgymorth ym Mhontardawe a chanol Castell-nedd ac rydym hefyd yn defnyddio canolfannau cymunedol a hyfforddi mewn lleoliadau eraill, fel Glyn-nedd, Banwen, y Cymer a Gwaun Cae Gurwen. Ein nod yw rhoi dysgwyr ar ben y ffordd i astudio, boed hynny ar gyfer gwaith neu bleser. Rydym yn cyflenwi rhai o’r cyrsiau ein hunain ac eraill drwy gytundeb rhyddfraint gyda Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae ein cyrsiau yn amrywio o TG sylfaenol i ieithoedd tramor modern, y Gymraeg a Chelf a Chrefft.