FFONIWCH NI AR 01639 648000



| Hygyrchedd |
Yn Internet Explorer a Firefox, ewch i’r ddewislen Gweld >Maint y Testun i ddewis maint ffont llai / mwy. Fel arall, gallwch ddefnyddio CTRL- a CTRL+ i addasu maint y dangosydd gan ddefnyddio’r bysellfwrdd. (Command+ a Command- ar Mac)
Yn Safari, ewch i Gweld >Gwneud y testun yn fwy / llai.
Mae bysellau cyrchu yn caniatáu i chi we-lywio i bob un o brif adrannau’r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig. I’w defnyddio yn Internet Explorer (ar Gyfrifiadur Personol), gwasgwch a daliwch y fysell ALT ac yna gwasgwch y rhif sydd ei angen arnoch, wedi’i ddilyn gan y fysell RETURN.
Os ydych yn defnyddio Firefox, gwasgwch ALT-SHIFT wedi’u dilyn gan y fysell gyrchu. Ar unrhyw borwr ar y Mac, gwasgwch CTRL a’r fysell gyrchu.
Mae’r bysellau cyrchu canlynol wedi’u gosod:
Mae’r wefan wedi’i chynllunio i weithio’n dda gyda darllenwyr sgrîn, sy’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ymwelwyr dall. Cliciwch y ddolen TESTUN ar frig y dudalen i fynd i’r dudalen testun; fel arall, defnyddiwch y Bysellau Cyrchu hyn:
Gwasgwch a daliwch y botwm CTRL a’r bysellau + neu - neu olwyn sgrolio’r llygoden i chwyddo’r sgrîn. Yn Firefox ac ar Safari, bydd hyn yn gwneud i faint y testun gynyddu, yn hytrach na’i chwyddo’n gyffredinol (defnyddiwch Command+ a Command- ar Mac).
Rydym wedi gosod y wefan fel y gallwch gyrraedd ein holl ddolenni a’n botymau yn hawdd gan ddefnyddio’r fysell Tab →׀ ar eich cyfrifiadur. Bydd defnyddio tab yn caniatáu i chi neidio i’r dolenni pwysicaf yn hawdd a bydd yn gweithio mewn trefn drwy feysydd ffurflenni a thablau. Gallwch wasgu SHIFT-tab i fynd yn ôl a gwasgu RETURN i 'glicio’r’ ddolen.
Lle bo delwedd yn arwyddocaol ac yn ddisgrifiadol, byddwn bob amser yn darparu testun amgen sy’n ddarllenadwy gan ddarllenwyr sgrîn neu drwy hofran dros unrhyw ddelwedd â’r llygoden.
Mae Coleg Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu sicrhau bod y wybodaeth y mae’n ei darparu yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ag anableddau.
Er ein bod yn bwriadu sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch, os oes arnoch angen copïau o’r wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat arall, yna cysylltwch â Thîm Datblygu’r We i drafod eich anghenion.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â sut y gallem wella’r wefan, yna cysylltwch â Thîm Datblygu’r We.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu un wefan ar gyfer pawb sy’n dymuno dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â’r cyrsiau a ddarperir gan Goleg Castell-nedd Port Talbot ar y we fyd-eang.
Gellir gweld yr holl dudalennau gwe mewn testun mwy drwy ddewis 'Gweld' yn eich porwr rhyngrwyd, yna maint y testun.
Mae Tudalennau Gwe yn cael eu profi dros amrywiaeth o gyflymderau llinell er mwyn adnabod problemau posibl gydag amserau dangos.
Darperir dogfennau mewn pdf (fformat dogfen Gludadwy), fel dewis arall yn hytrach na html, lle mae angen argraffu dogfen sy’n edrych yn union yr un fath â chopi papur. Mewn rhai achosion, cynigir pdf heb html fel dewis arall, lle cafwyd ei bod yn anodd trosi tablau neu siartiau yn html. Nid polisi’r wefan hon yw darparu gwybodaeth mewn fformat pdf. Os hoffech gael cymorth wrth gyrchu unrhyw ffeiliau PDF ar y wefan hon, cliciwch Cymorth gyda Ffeiliau PDF.
Mae bysellau cyrchu yn cael eu datblygu i’w defnyddio ar y wefan hon. Ar hyn o bryd, maent ar gael o’r hafan yn unig. Cliciwch yma am fanylion pellach ynglŷn â sut i ddefnyddio bysellau cyrchu.
Os ydych wedi dod ar draws tudalennau nad ydych yn teimlo eu bod yn hygyrch, rhowch wybod i Dîm Datblygu’r We.

